Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 26 Chwefror 2018

Amser: 15.05 - 16.58
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4508


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Lee Waters AC

Tystion:

Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Huw David, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Geraint Hopkins, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

 

Swyddfa Archwilio Cymru:

Anthony Barrett  - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru

Matthew Mortlock

Dave Thomas

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Sian Thomas (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Rheoli meddyginiaethau: Trafod yr adroddiad drafft

1.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Yn sgil cyfyngiadau amser, cytunodd yr Aelodau i ddychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor wythnos nesaf.

</AI1>

<AI2>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC ac Adam Price AC.

 

</AI2>

<AI3>

3       Papur(au) i'w nodi

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.2 O ran y papurau a gafodd eu nodi, cytunwyd ar y camau penodol a ganlyn:

·         Cynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr adolygiad o'r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn;

·         Ysgrifennu at Gyfarwyddwr yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol yn gofyn am ragor o eglurder ynghylch y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â gwasanaeth digidol Llywodraeth y DU;

·         Ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ynghylch elfennau codio'r rhaglen Hwb.

</AI3>

<AI4>

3.1   Y Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (30 Ionawr 2018)

</AI4>

<AI5>

3.2   Maes Awyr Caerdydd: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (2 Chwefror 2018)

</AI5>

<AI6>

3.3   Sesiwn gychwynnol: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (31 Ionawr 2018)

</AI6>

<AI7>

3.4   Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Chwefror 2018)

</AI7>

<AI8>

3.5   Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a Llywodraeth Cymru

</AI8>

<AI9>

4       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Sesiwn dystiolaeth 6

4.1 Fel rhan o'u hymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Cynghorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr); y Cynghorydd Geraint Hopkins, Dirprwy Lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf); a Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

4.2 Cytunodd y tystion i anfon gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â nifer o bwyntiau i gynorthwyo'r Pwyllgor gyda'i ymchwiliad.

</AI9>

<AI10>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

5.1 Diwygiwyd y cynnig i gynnwys Eitem 1 o'r cyfarfod a gynhelir ar 5 Mawrth 2018, a chytunwyd arno.

</AI10>

<AI11>

6       Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>